|
CROESO I ERYRI!
Eryri yw calon Cymru ac mae’n un o’r ardaloedd hynaf
a harddaf yn Ewrop.
Mae Eryri (sef man yr eryrod) yn croesawu ymwelwyr i amgylchedd
naturiol hynod iawn o ran ei harddwch, a Pharc Cenedlaethol Eryri’n
ganolbwynt yr ardal. Bu pobl yn byw, yn gweithio ac yn ffynnu yn
yr ardal Geltaidd unigryw hon ers mwy na 5000 o flynyddoedd. Mae’r
ardal heddiw yn un a fydd yn rhyfeddod i’r ymwelydd gan ei
bod yn llawn cyfleoedd am antur, gweithgaredd a darganfod. 
Mae yma amrywiaeth eang o bethau i’w gweld a’u gwneud
– felly dewch i weld rhai o brif atyniadau Gogledd Cymru.
Dilynwch y dolennau a amlygwyd er mwyn cael gwybodaeth am y gwahanol
atyniadau.
GOGLEDD ERYRI
Adeiladodd brenin Lloegr, sef Edward 1 gylch o gestyll i oresgyn
Gogledd Cymru yn y 13eg ganrif. Cydnabyddir y ceyrydd mawreddog
hyn (Caernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech) bellach, gyda’i
gilydd, yn Safle Treftadaeth Byd. Mae cestyll y tywysogion Cymreig
yma hefyd - Dolbadarn, Dolwyddelan a Chricieth (a gymerwyd yn ddiweddarach
gan Edward 1). Mae’r cestyll hyn i gyd dan ofal Cadw.
Y tu allan i Fangor mae adeilad godidog Castell
Penrhyn, sydd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Adeiladwyd y castell rhwng 1827 a 1840 i deulu cyfoethog Pennant
gydag elw llechi Cymru ac mae’r castell yn llawn o bethau
anhygoel ac mae erwau lawer o barc hyfryd o’i gwmpas.
Ym Mangor medrech ymweld ag Amgueddfa
ac Oriel Bangor er mwyn dysgu mwy am hanes rhyfeddol Gogledd
Cymru. Chwiliwch am raglen y ganolfan o arddangosfeydd hanesyddol
a chelfyddydol thematig.
Rhwng Bangor a Chaernarfon ar y B4366 mae Parc
Coedwig Gelli Gyffwrdd, lle perffaith ar gyfer y teulu cyfan.
Mae’r atyniad hwn wedi ennill sawl gwobr. Medrwch lithro i
lawr y llithren hiraf yng Nghymru, teithio ar rollercoaster sydd
yn cael ei yrru gan bwer pobl, neu eich tynnu eich hunain ymlaen
mewn cwch jyngl a mynd ar goll mewn drysfa.
Yng Nghaernarfon mae atyniad teuluol arall sydd wedi ennill gwobrau,
sef Yr
Hwylfan. Mae llithrennau 25 troedfedd, pyllau peli a sleidiau
tiwb yng nghanolfan hwyl dan do fwyaf a gorau Gogledd Cymru.
Os ewch allan o Gaernarfon ar hyd yr A487, byddwch yn cyrraedd
Gwaith
Llechi Inigo Jones ac mae modd mynd ar daith o amgylch y gwaith
i weld y crefftwyr yn torri, caboli ac engrafu’r llechi. Mae
siop yno hefyd ac mae nwyddau llechi a chrefftau Celtaidd eraill
o safon uchel ar werth yno.
Disgrifiwyd Parc
Glynllifon, sydd ar y A499, unwaith fel ‘cyfrinach fwyaf
Cymru’ ond os ewch yno medrwch grwydro drwy 70 erw o goed
a phlanhigion egsotig ac ymweld â gweithdai crefft a dylunio,
oriel a siop.
Mae Nant
Gwrtheyrn ar arfordir Gogledd Llyn yn lleoliad hudol i ddysgu
am hanes y chwareli ithfaen, y chwedlau lleol a’r iaith Gymraeg
neu fan hyfryd am baned ar ôl cerdded y llwybrau.
CANOL ERYRI
Llanberis, y pentref sydd wrth droed yr Wyddfa, yw lleoliad llawer
o atyniadau pwysig Gogledd Cymru.
Mae Rheilffordd
yr Wyddfa yn cludo ymwelwyr i ben mynydd uchaf Cymru ar yr unig
reilffordd rhac a phiniwn gyhoeddus ym Mhrydain. Mae theatr glyweledol
yn cyflwyno taith rithwir i’r copa ac yna yn ystod eich taith
i fyny mae sylwebaeth yn y cerbyd sy’n sôn am rai o
gyfrinachau Eryri.
Canolfan
Ymwelwyr Mynydd Gwefru yw man cychwyn y teithiau tanddaearol
i Orsaf Drydan Dinorwig, sydd yng nghrombil Mynydd Elidir, i ddarganfod
sut mae dwr yn cael ei ddefnyddio i greu ynni ar gyfer y grid cenedlaethol.
Yn y ganolfan mae arddangosfeydd o ddarluniau, siopau a chaffi.
Ychydig ymhellach draw, yng ngweithdai gwreiddiol y chwarel, dan
gysgod y mynyddoedd llechi, mae’r Amgueddfa
Lechi Genedlaethol, amgueddfa lle mae peiriannau a chrefftwyr
yn gweithio ac yn adrodd stori’r diwydiant llechi yng Ngogledd
Cymru. Mae yno grefftwyr yn hollti llechi o dro i dro, Tai Chwarelwyr
ac olwyn ddwr enfawr.
Dros y ffordd, gyferbyn â’r Amgueddfa Lechi, mae Rheilffordd
Llyn Llanberis, lle medrwch deithio ar y trên stêm
hanesyddol ar hyd y rheilffordd gul heibio i Gastell Dolbadarn ac
yna ar hyd glan Llyn Padarn. Mae’r golygfeydd dros y llyn
tua’r Wyddfa’n wych.
Safle coediog 800 erw yw Parc
Gwledig Padarn ac yno mae Rheilffordd y Llyn a’r Amgueddfa
Lechi, a gellwch ymweld, hefyd, ag Ysbyty’r Chwarel neu gerdded
ar hyd nifer o wahanol lwybrau natur a threftadaeth.
O aros ym Mharc Padarn cewch fwynhau’r golygfeydd ysblennydd
wrth blymio o ben twr gweithgareddau uchaf y DG. Profwch yr her
awyrol, y lein zip a’r wal ddringo yn Ropes
and Ladders ac mae’r goedwig fechan yn hafan berffaith
rhag y gwynt a’r glaw.
GWLAD A MÔR
Yn teyrnasu dros dref Conwy
ac yn gadarnle i olygfeydd gogoneddus o’r môr a’r
bryniau mae Castell Conwy. Fe’i hadeiladwyd gan Edward I ac
y mae nawr dan ofal Cadw.
Un arall o adeiladau Cadw, sydd hefyd yng Nghonwy, yw Plas
Mawr. Mae’r ty trefol Elisabethaidd hwn, a adeiladwyd
ar gyfer masnachwr Cymraeg dylanwadol, yn berl pensaernïol.
Mae Gerddi
Bodnant wyth milltir o Landudno, ychydig oddi ar yr A470, ac
mae yno 80 erw o erddi godidog sydd yn lliwgar a diddorol o’r
gwanwyn i’r hydref.
Yr ochr arall i’r afon ar y B5106, rhwng Conwy a Betws y
Coed, mae Melin
Wlân Trefriw, lle mae’r un teulu wedi bod yn cynhyrchu
cwrlidau gwlân Cymreig traddodiadol ers mwy na 140 o flynyddoedd.
Ewch i weld y gwehyddu a’r tyrbinau hydro-electrig cyn mynd
i’r siop lle mae nwyddau hyfryd ar werth.
“Ymwelwch â’r gwehyddu a’r tyrbinau
hydro-electrig. Mae’r cwrlidau a’r brethynnau Cymreig
traddodiadol, ynghyd â dillad gwlân pur, ar werth yn
y siop. Ymwelwch â’n siop ar-lein "
Ar y daith o Fetws y Coed i Feddgelert ar hyd Dyffryn Gwynant byddwch
yn cyrraedd Gwaith
Copr Sygun. Yno medrwch fynd i’r twnelau lle’r oedd
y gwaith ers talwm, a chewch edmygu’r stalactidau a’r
stalagmidau gwych, neu medrwch geisio panio am aur.
Os ydych yn barod am dipyn o hwyl fel teulu, Canolfan
Weithgareddau Parc Glasfryn, ger Y Ffor ar yr A499 cyn cyrraedd
Pwllheli yw’r lle i fynd. Bydd cyfle i bawb gael hwyl yn go-cartio,
neu fynd ar y beiciau cwad, a rhoi tro ar saethyddiaeth a bowlio
deg. Mae modd prynu cynnyrch lleol hefyd yn y Siop Fferm sydd yno.
I’r de o’r mynyddoedd mae Eryri’n arwain at arfordir
hudolus gyda thraethau llawn tywod, ac ar y clogwyn gerllaw mae
Castell Cricieth. Yn Llanystumdwy, ger Cricieth, mae Amgueddfa
Lloyd George lle gallwch ddysgu am fywyd a chyfnod David Lloyd
George, yr hogyn a fagwyd mewn bwthyn ac a ddaeth yn Brif Weinidog
yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Y tu draw i Bwllheli, yn Llanbedrog, mae Oriel
Plas Glyn-y-Weddw, plasty Gothig Fictorianaidd gwych a restrwyd
fel un Gradd 11* ac un o orielau celf hynaf Cymru. Medrwch ymweld
â’r arddangosfeydd o ddarluniau neu grwydro drwy’r
gerddi a mwynhau’r olygfa odidog dros Fae Aberteifi.
Wrth deithio i’r dwyrain o Bwllheli trwy Borthmadog byddwch
yn camu’n ôl mewn amser yn Rheilffordd
Ucheldir Cymru (Porthmadog), lle medrwch fynd ar un o’r
injans a gweld sut mae pethau’n gweithio yn y siediau.
Filltir a hanner o Borthmadog mae pentref rhyfeddol Portmeirion.
Breuddwydiai Syr Clough Williams-Ellis am greu pentref delfrydol
ac yma fe welwch sut y daeth ei freuddwyd yn wir.
O Bortmeirion ewch am gysgod y bryniau i Flaenau Ffestiniog a Chwarel
Llechwedd. Rhy’r ddwy daith danddaearol wefreiddiol flas
o’r bywyd oedd yn wynebu Chwarelwyr Oes Fictoria. Ar y brig,
yn y Pentre’ Fictorianaidd, cewch gyfnewid eich arian yn yr
Hen Fanc ac ymweld â’r Siop Pethau Da i brofi melysion
hen ffasiwn.
DE ERYRI
Ar hyd yr arfordir mae porthladd a chyrchfan hyfryd Abermaw, canolfan
adeiladu llongau a mordwyo yn y 18fed a’r 19eg ganrif, a gellir
dysgu am y dreftadaeth forol yn Sefydliad y Morwyr Ar
y Cei yn Abermaw.
Ymhellach draw yn Nhywyn, mae Rheilffordd
Talyllyn, lle’r arferid allforio llechi ac sydd erbyn
hyn yn cludo teithwyr am 7 milltir i Abergynolwyn. Mae’r rheilffordd
gyntaf yn y byd i gael ei diogelu a’i rhedeg gan wirfoddolwyr
wedi bod yn rhedeg ers 1865 ac mae’r injans a’r cerbydau
gwreiddiol yn dal ar waith.
I’r dwyrain mae Canolfan Grefftau Corris lle mae amrywiaeth
o eitemau lleol ar gael yn y gweithdai crefft ac yma mae man cychwyn
Labrinth
y Brenin Arthur. Gellwch fynd ar daith ar gwch ar hyd afon danddaearol
a gwrando ar Chwedlau’r Brenin Arthur, neu chwilio yn yr awyr
agored am hen chwedlau yn Ymchwil y Beirdd.
Ychydig filltiroedd o Gorris yn Nolgellau mae Canolfan
Dreftadaeth y Crynwyr lle medrwch ddarganfod beth oedd y cysylltiad
rhwng Eryri a Phensylfania. Yno ceir hanes anghydffurfwyr crefyddol
Gogledd Cymru a ymfudodd i America yn y 18fed ganrif i osgoi tlodi
ac erledigaeth.
BWYD
A DIOD
Os byddwch wedi magu awydd bwyd wrth deithio o amgylch Eryri, da
o beth fyddai i chi aros ger un o gaffis
Hufen Iâ Cadwalader. Cewch yno hufen iâ gogoneddus
a wnaed yng Ngogledd Cymru o rysáit traddodiadol, a hefyd
cewch goffi o safon, ysgytlaeth, smwddis, sundaes a chacennau. Mae’r
rhain yng Nghricieth, Porthmadog, Portmeirion, Betws y Coed, Llandudno
a Phwllheli.
Os am fwyd cartref creadigol, mae bwydlen Caffi
Caban ym Mrynrefail, ger Llanberis, yn cynnig amrywiaeth iachus
o gynnyrch organig, a ffrwythau a llysiau o’r ardd gyfagos.
Ar nosweithiau Sadwrn (rhaid archebu bwrdd o flaen llaw) cewch deithio’r
byd gyda bwffe bendigedig yn y lleoliad hwn sydd heb ei ail.
IAITH A DIWYLLIANT
Mae’r Gymraeg yn un o’r ieithoedd hynaf sy’n
dal yn fyw yn Ewrop ac mae oddeutu dau o bob tri yn yr ardal hon
yn ei siarad (fel arfer hi yw’r famiaith) yn ogystal â’r
Saesneg.
Mae llawer o berfformiadau a digwyddiadau Cymraeg yn yr ardal,
gan gynnwys cyngherddau gan rai o gorau meibion gorau’r byd.
Bydd croeso cynnes i chi!
DIGWYDDIADAU
Cynhelir llawer iawn o wahanol ddigwyddiadau yng Ngogledd Cymru,
o gelf a chrefft, gwyliau, sioeau bwyd, rasys a marathons i sioeau
ceir a llawer o weithgareddau ac arddangosfeydd y Nadolig. Mae digon
o hwyl trwy gydol y flwyddyn. Mae rhestr lawn o’r digwyddiadau
ar gael drwy glicio ar www.visitsnowdonia.info
neu ymweld â’r Canolfannau Twristiaeth.
TEITHIO YMA
Ar y Ffordd
O Ogledd Orllewin Lloegr: dilynwch briffordd gyflym yr
A55 o’r M56.
O Ganolbarth Lloegr: teithiwch ar hyd ffordd hanesyddol yr A5 o’r
M54
O Dde Lloegr: mae’n hawdd cyrraedd Gogledd Cymru ar hyd yr
M6, M5 a’r M1
O Dde Cymru: dilynwch yr A487 a A470 a mwynhewch y golygfeydd
Ar
y Trên
Y daith gyflymaf yw’r un o Lundain i Gaergybi sydd yn dilyn
yr arfordir ar hyd gogledd Cymru gan aros ym Mhrestatyn, Cyffordd
Llandudno a Bangor ar y ffordd.
Mae golygfeydd gwych ar y daith o Ganolbarth Lloegr o Amwythig i
Fachynlleth ac yna ar hyd yr arfordir gorllewinol ar hyd Lein y
Cambrian i Bwllheli.
Ar y Bws
Mae gwasanaeth National Express oddi ar y rhwydwaith Prydeinig i
Landudno, Bangor, Caernarfon a Phorthmadog.
Hedfan
Mae’n cymryd llai na dwy awr i deithio o feysydd awyr rhyngwladol
Manceinion, Lerpwl a Birmingham. Gellir llogi car yn y tri lle.
Dros y Môr
Mae Stena Line ac Irish Ferries yn rhedeg gwasanaethau
cyflym i Gaergybi o Dun Laoghaire a Dulyn.
Ar y Beic
Mae rhannau o’r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol (cyfres o
lwybrau beiciau lle nad oes moduron) yn arwain at nifer o Atyniadau
Eryri. Ymwelwch â www.nationalcyclenetwork.org.uk
i gael mwy o wybodaeth.
TEITHIO WEDI I CHI GYRRAEDD YMA
Cysylltwch â’r Llinell Deithio i gael mwy o wybodaeth
am gludiant cyhoeddus: 0870 6082 608.
Cysylltwch â Bws Gwynedd i gael manylion am y bysiau lleol,
gan gynnwys y gwasanaeth Sherpa sydd yn rhedeg o amgylch mynyddoedd
Eryri: ffôn. 01286 679535, www.gwynedd.gov.uk/bwsgwynedd
TEITHIAU GRWP I ERYRI - Cliciwch yma
Back to the top.
|